Myddfai
Myddfai
Myddfai

Cael gwybod mwy am Feddygon Myddfai a’n Hanes


Roedd  “Meddygon Myddfai” yn llysieuwyr yn y deuddegfed ganrif, oedd yn gyfnod o syniadau a dysgu newydd a ysbrydolodd y cyfnod Gothig ac a roddodd fomentwm iddo. I’r gwrthwyneb i’r farn gyffredin fod y cyfnod canoloesol yn gyfnod tywyll, roedd mewn gwirionedd yn gyfnod o bwysigrwydd diwylliannol mawr, gyda’r prifysgolion cyntaf yn cael eu creu ac ysgolion mynachaidd yn cael eu sefydlu. Daeth ystod o wybodaeth newydd ar gael drwy gyfieithiadau, yn cynnwys testunau meddygol.

Roedd Myddfai yn un ganolfan o’r fath a flodeuodd o ganlyniad i’r wybodaeth newydd hon. Yn oddeutu 1177 OC roedd y tywysog Cymreig yr Arglwydd Rhys (1132 – 1197) llywodraethwr teyrnas y Deheubarth yn Ne Cymru yn allweddol wrth noddi mynachlogydd Talyllychau ac Ystrad Fflur. Fel y mae enw’r ail – sef “Haenau Blodau” – yn ei awgrymu, roedd yr abatai hyn hefyd yn ffynnu fel ysgolion ac ysbytai meddyginiaeth lysieuol.

Daeth Rhiwallon, sef yr ymarferydd gorau yn feddyg personol i’r Arglwydd Rhys yn Ninefwr. Cynorthwywyd Rhiwallon gan ei dri mab, Cadwgan, Griffith ac Einon. Yn gyfnewid, fe’u gwobrwywyd gyda thir o gwmpas Myddfai.  

“Diogelodd yr Arglwydd Rhys eu hawliau a’u breintiau gydag uniondeb ac anrhydedd.”

Yn y mynachlogydd hyn byddai’r meddygon wedi ennill llawer o’u sgiliau ymarferol mewn perthynas â meddyginiaeth lysieuol. Byddai ysgolheictod y mynachod hefyd wedi annog cofnodi eu ryseitiau ar bapur. Fe wnaethant hyn, “Fel cofnod o’u medr rhag ofn na fyddai neb arall yn meddu ar yr un medrau.” Fodd bynnag, fel y dywed Pughe, “mae’n annhebygol bod eu materia medica yn dod o’r cyfnod hwnnw.” Mae’n fwyaf tebygol mai casgliad o wybodaeth ydoedd o’r canrifoedd blaenorol o’r defnydd o lysiau gan lwythi a phentrefi De Cymru.

 

Un o’r ffeithiau mwyaf hynod yn hanes y meddygon oedd sefydlu cyfnewidiadau rhwng  Myddfai a’r ysgol feddygol yn Salerno.
Cael gwybod mwy..