Myddfai
Myddfai
Myddfai

Mwy am Bentref Myddfai a’n hanes


Nid yw ystyr ac arwyddocâd yr enw Myddfai yn glir ac ni chynigiwyd eglurhad boddhaol hyd yn hyn. Fel y dywed David B James, yn ei lyfr ‘Myddfai, it's Land and Peoples’, “Mae’n debygol iawn bod ystyr penodol i’r gair Myddfai, ac o bosib fod arwyddocâd ffisegol iddo. Awgrymir hyn gan y ffaith nad yw’r gair yn unigryw i un gymdogaeth ond caiff ei weld hefyd fel enw pentrefan a elwir yn Flaenfyddfai neu Mothvey, sydd o fewn plwyf Llanarthne.”

Yn ystod y drydedd ganrif ar ddeg, yn ôl y cofnodion, roedd Myddfai yn boblogaidd gyda meddygon a lluniwyd casgliad o feddyginiaethau. Mae astudiaeth o’r ryseitiau hyn yn dangos bod meddyginiaeth Gymreig yn llawer mwy blaengar na rhan fwyaf Ewrop ar y pryd, gyda chyfarwyddiadau yn cael eu rhoi ynghylch meintiau a dulliau paratoi’r cynhwysion - sef rhywbeth anarferol iawn ar y pryd. Roedd y meddyginiaethau a argymhellwyd i gael eu paratoi’n ofalus a’u rhoi i drin pob math o gyflyrau, yr oedd y rhan fwyaf ohonynt yn gysylltiedig â’r amodau byw a gweithio oedd yn bodoli ar y pryd.

Dros y blynyddoedd, mae stori Meddygon Myddfai wedi’i phlethu â chwedl Llyn y Fan Fach. Mae llawer o fersiynau o’r chwedl, rhai’n fwy blodeuog na’i gilydd, ond yn gyffredin iddynt oll mae denu Morwyn y Llyn gyda bara a chanlyniadau taro tri ‘ergyd’. Dywedwyd bod y cwpl ifanc wedi mynd i fyw i Esgairllaethdy a magu tri mab a ddaeth yn feddygon yn ddiweddarach.

Edrychwch ar luniau o’n pentref arbennig a’r wlad o’i gwmpas.
Cael gwybod mwy...